Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

25 Mawrth 2019

SL(5)383 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae pobl benodol yn cael eu diystyru wrth benderfynu pa un a yw annedd yn ddarostyngedig i ddisgownt ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy.  Mae’r dosbarthau o bobl sy’n cael eu diystyru wedi eu nodi yn Atodlen 1 i’r Ddeddf a Rheoliadau 1992, a Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (O.S. 1992/552) (“Rheoliadau 1992”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992, i ychwanegu ymadawyr gofal cymwys i'r categori o bobl sydd i'w diystyru at ddibenion cyfrifo'r dreth gyngor.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 4 a 5 newydd i Reoliadau 1992 (ac yn diwygio'r rheoliad 3 presennol fel ei fod yn gymwys i Loegr yn unig). Mae'r darpariaethau newydd yn rhagnodi'r dosbarthau o bobl sy'n cael eu diystyru wrth benderfynu pa un a yw annedd yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddisgownt.  Mae dosbarthau A - F yn defnyddio’r un disgrifiadau ac amodau ag a ddefnyddir yn y dosbarthau cyfatebol yn Lloegr, ac mae dosbarth G newydd (ymadawyr gofal sy’n iau na 25 oed) wedi'i ychwanegu sydd ond yn berthnasol i anheddau yng Nghymru. 

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Fe’u gwnaed ar: 04 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 05 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

 

SL(5)397 – Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1339 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2018”).

Mae rheoliad 2(a) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2018 er mwyn caniatáu i ddarparwr awdurdod lleol benodi swyddog o awdurdod lleol arall i fod yn gyfrifol am reoliʼr gwasanaeth maethu.

Mae rheoliad 2(b) yn gwneud diwygiad i destun Cymraeg rheoliad 10 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Saesneg. 

Mae rheoliad 2(c) yn gwneud diwygiad i destun Saesneg rheoliad 11 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Cymraeg.

Mae rheoliad 2(d) yn diwygio rheoliad 26 o Reoliadau 2018 i bennu bod y cyfeiriad yn y rheoliad hwnnw at iechyd a datblygiad yn cael ei newid i iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol. 

Mae rheoliad 2(e) yn diwygio rheoliad 29 o Reoliadau 2018 fel mai 1 Ebrill 2022 sy’n cael ei roi fel y dyddiad na chaiff darparwyr awdurdodau lleol gyflogi person i reoliʼr gwasanaeth maethu awdurdod lleol ohono oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae’r newidiadau a wneir yn rheoliadau 2(b) ac (c) yn ymateb i bwyntiau adrodd a nodwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiad ar Reoliadau 2018.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 12 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 29 Ebrill 2019

 

SL(5)400 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil Ar Dramgwyddau Parcio (Sir Fynwy) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Sir Fynwy i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoli Traffig 2004

Fe’u gwnaed ar: 13 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 14 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 08 Ebrill 2019

SL(5)401 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Caerffili) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoli Traffig 2004

Fe’u gwnaed ar: 13 Mawrth 2019

Fe’u gosodwyd ar: 14 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: 08 Ebrill 2019